Home > Uncategorized > AS Llanelli yn galw am eglurder ar arian ynni Cartrefi Parc

Mae Aelod Seneddol Llanelli, y Fonesig Nia Griffith, wedi galw ar weinidogion Ceidwadol Llywodraeth y DU i amlinellu sut y bydd pobl sy’n byw mewn Cartrefi Parc yn barhaol yn derbyn cymorth y mae mawr ei angen tuag at eu biliau ynni.

Gwnaeth yr AS cyfarfod yn ddiweddar â thrigolion Poplar Court, Cross Hands, sydd ar hyn o bryd yn y tywyllwch ynghylch â sut y byddant yn derbyn taliad Grant Cymorth Biliau Ynni o £400 a fydd yn mynd tuag at gostau cynyddol gwresogi a goleuo eu cartrefi.

Ynghyd â llawer o deuluoedd eraill mewn Cartrefi Parc yn Llanelli a ledled y wlad, nid ydynt yn derbyn eu biliau’n uniongyrchol gan gyflenwr ynni. Yn lle, mae cwmnïau ynni yn bilio perchennog y safle, sydd wedyn yn bilio preswylwyr. O ganlyniad, nid oes llwybr clir o ran sut y bydd y taliad cymorth yn cael ei wneud.

Codwyd y pwnc yn y Senedd yr wythnos diwethaf gan y Fonesig Nia yn ystod Cwestiynau Cymru, pan bwysleisiodd fod angen mynd i’r afael ar yr ansicrwydd gan Lywodraeth y DU, er mwyn i drigolion allu cynllunio ymlaen llaw. Mae hi hefyd wedi amlygu’r mater mewn llythyr at David TC Davies AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, yn Swyddfa Cymru.

Dywedodd y Fonesig NIA GRIFFITH, AS Llanelli:

“Mae gwir angen i Lywodraeth y DU fynd i’r afael â’r mater hwn.

Mae llawer o bobl sy’n byw’n llawn amser mewn Cartrefi Parc yn bensiynwyr ar incwm sefydlog sy’n bryderus iawn am eu biliau ynni sydd ar y gorwel. Mae’n ddealladwy eu bod yn awyddus i wybod a fyddant yn gallu cael y grant hwn a sut.

Gallaf weld pam na fyddai’n ddymunol gwneud taliadau ar wahân lluosog i berchnogion safleoedd ar gyfer pob cartref unigol ac rwyf eisoes wedi gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin os holwyd hwy ynghylch cymryd rhan gan y bydd ganddynt yr holl wybodaeth angenrheidiol i wneud pethau’n symlach. Fodd bynnag, gwnaethant gadarnhau eto i mi’r wythnos diwethaf nad ydynt, hyd yn hyn, wedi cael unrhyw wybodaeth.

Mae ond yn deg i’r trigolion dan sylw fod ffordd synhwyrol ymlaen yn cael ei chanfod cyn gynted â phosibl fel y gallant wybod yn bendant eu bod yn mynd i gael yr help y maent yn ei haeddu.”