Home > Uncategorized > Tegwch yn y Gweithle

Ar gyfer ein dadl seneddol heddiw ar Araith y Frenhines, dewisodd Llafur y thema Tegwch yn y Gweithle, oherwydd credwn ei bod yn bwysig talu pobl yn iawn a rhoi sicrwydd iddynt yn y gweithle, cael gwared ar y contractau dim oriau a’r diwylliant diswyddo ac ailgyflogi.

Yn ogystal â sôn am y rheini, eglurais sut y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithredu ein haddewid maniffesto i sicrhau bod pob gofalwr cyflogedig yng Nghymru yn cael o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol, sydd wedi’i osod ar £9.90 yr awr ar hyn o bryd.