Diolch yn fawr i Gôr Hospital Notes, tîm Bro Lliedi a phawb a helpodd i drefnu gwasanaeth diolchgarwch a chinio i gofio a chydnabod yr holl waith caled gweithwyr allweddol yn y pandemig.
Daeth nifer i’r digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Selwyn Samuel, ac roedd yn ffordd bwysig o nodi’r holl wasanaeth ac ymroddiad a roddwyd gan staff rheng flaen dros y blynyddoedd diwethaf.