Home > Uncategorized > Dathlu gwaith Jim Griffiths AS

Mae’n anrhydedd cael gwahoddiad gan y Prif Weinidog Cymru i siarad yn y Senedd yn ddiweddar at gyflwyniad penddelw fy rhagflaenydd parchus Jim Griffiths AS a gynrychiolodd Llanelli rhwng 1936 a 1970.

Fel Gweinidog Yswiriant Gwladol yn Llywodraeth Lafur 1945, cyflwynodd lwfansau teulu, y Ddeddf Yswiriant Gwladol, y Ddeddf Cymorth Gwladol a’r Ddeddf Anafiadau Diwydiannol, felly’n creu’r wladwriaeth les fodern.

Baratôdd y ffordd ar gyfer datganoli, gan ddod yn Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru ym 1964.