Home > Uncategorized > Cefnogi Cymdeithas Alzheimer yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia

Fel rhan o Wythnos Gweithredu ar Ddementia (16-22 Mai), gwnaeth AS Llanelli, Nia Griffith, cyfarfod â phobl effeithiwyd gan ddementia, arbenigwyr o Gymdeithas Alzheimer a chlinigwyr yn nerbyniad Seneddol yr elusen i ddarganfod mwy am y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu i gael diagnosis.

Ar hyn o bryd mae tua 50,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, gyda chyfanswm o 900,000 ar draws y DU, sydd i fod i godi i 1.6m erbyn 2040. Fodd bynnag, gyda chyfraddau diagnosis ar ôl y pandemig yn is na bum mlynedd yn ôl, mae’r elusen yn credu bod degau o filoedd o bobl bellach yn byw gyda dementia heb ei ddiagnosio. Mae hyn yn golygu nad oes ganddyn nhw fynediad at y gofal a’r cymorth hanfodol y gall diagnosis eu cynnig.

Mae ymchwil newydd gan Gymdeithas Alzheimer yn dangos nad yw rhai pobl yn ceisio diagnosis oherwydd eu bod yn meddwl bod colli cof yn rhan o heneiddio, ddim yn adnabod arwyddion dementia, neu eu bod yn gwadu eu symptomau. Er bod meddwl am ddiagnosis yn gallu bod yn frawychus, mae dros 9 o bob 10 o bobl â dementia yn dweud eu bod wedi elwa o gael diagnosis, er enghraifft drwy eu helpu i ddod i delerau ag ef neu gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Addawodd Nia Griffith AS ei chefnogaeth i ymgyrch Wythnos Weithredu ar Ddementia – “Nid henaint, ond salwch” – sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o symptomau dementia ac annog pobl sy’n poeni am symptomau i geisio am ddiagnosis.

Dywedodd: “Fe wnes i addo cefnogi Cymdeithas Alzheimer yn eu hymgyrch i wneud gwella cyfraddau diagnosis dementia yn flaenoriaeth. Mae 1 o bob 4 o bobl wedi brwydro yn erbyn symptomau dementia am dros ddwy flynedd cyn cael diagnosis. Dylai unrhyw un sy’n pryderu am eich hun neu rywun annwyl, gysylltu â Chymdeithas Alzheimer am gyngor a chymorth.”

Dywedodd James White, Pennaeth Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd y Gymdeithas Alzheimer: “Rydym yn diolch i Nia Griffith am gwrdd â ni, ac am ddangos ei chefnogaeth i Wythnos Gweithredu Dementia.

“Nid mynd yn hen yw gofyn yr un cwestiwn dro ar ôl tro, ond salwch . Gwyddom fod cael diagnosis o ddementia yn gallu bod yn frawychus, ond rydym am i bawb allu deall ac adnabod symptomau dementia, teimlo eu bod wedi’u hymgynnal i gymryd y camau nesaf, a dod i Gymdeithas Alzheimer am gymorth.

“Mae cyfraddau diagnosis cenedlaethol ar hyn o bryd ar ei isaf ers pum mlynedd felly mae mor bwysig ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gael diagnosis i bobl er mwyn iddyn nhw gael triniaeth a chymorth. Rydym wedi lansio adnoddau newydd i arfogi pobl â’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt wrth siarad â’u meddyg teulu, sy’n cynnwys cymorth a chyngor ar-lein a rhestr wirio symptomau newydd y gellir ei hargraffu a mynd â hi at y meddyg i helpu cleifion a chlinigwyr i gael diagnosis haws.”

Dim ond galwad ffôn neu gliciad i ffwrdd yw cefnogaeth a mwy o wybodaeth am ddiagnosis. Ewch i alzheimers.org.uk/memoryloss neu ffoniwch Gymdeithas Alzheimer ar 0333 150 3456 [0330 094 7400 am linell ffôn Gymraeg]. Ar gyfer galwyr a hoffai siarad mewn iaith arall, gall Cymdeithas Alzheimer drefnu gwasanaeth cyfieithu ar eu cyfer.