Home > Uncategorized > Colofn Llanelli Star – Dewisiadau Etholiadau Lleol ym mis Mai

Fy ngholofn yn Llanelli Star yr wythnos hon ar yr Etholiadau Lleol sydd i ddod….

Pwy ydych chi’n meddwl bydd y person gorau i gynrychioli chi, eich teulu ac eich ardal leol o ran rhedeg eich cynghorau tref, cynghorau cymunedol a Chyngor Sir Gâr?

Ar ba blaid wleidyddol y gallwch ddibynnu fwyaf i ddarparu gwasanaethau rheng flaen megis addysg, gofal cymdeithasol, casgliadau gwastraff ac ailgylchu a phob dim y mae’r cynghorau hyn yn ei ddarparu?

Dyna’r cwestiynau y bydd pobl ledled Sir Gaerfyrddin yn eu hystyried yn ofalus dros yr wythnosau nesaf gydag etholiadau Llywodraeth Leol yn cael eu cynnal yn ystod wythnos gyntaf mis Mai. Am y tro cyntaf mewn etholiadau cyngor, bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael cyfle i osod eu pleidleisiau hefyd.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei redeg gan gynghorwyr Plaid ac Annibynnol. Bydd yr etholiadau hyn yn gyfle i bleidleiswyr barnu a ydynt wedi cyflawni’r addewidion a wnaethant yn ôl yn 2017 neu wedi siomi pobl. Ar ystod eang o faterion gan gynnwys cyflwr canol ein trefi, y dreth gyngor, mynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a llawer mwy, bydd pobl yn penderfynu dros bwy y byddant yn pleidleisio ar sail a yw bywyd wedi gwella yn eu cymuned leol, eu tref agosaf ac ar draws y Sir gyfan.

Rwyf wedi bod allan mewn sawl rhan o Lanelli yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, yn ymgyrchu ochr yn ochr â’n hymgeiswyr Llafur Cymreig rhagorol. Mae’n drawiadol bod cymaint o bobl o gefndiroedd ac oedrannau gwahanol yn barod i gynnig eu hunain ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus ac i wneud eu gorau dros eu cymunedau.

Mae’n bwysig bod pawb yn cymryd y cyfle i bleidleisio yn yr etholiadau hyn. Bydd yr ymgeiswyr hynny a etholir yn gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio ar ein bywydau bob dydd.

Gwnewch yn si?r eich bod yn dweud eich dweud ar 5ed Mai.