Home > Uncategorized > Mae angen diwygio gamblo nawr

Gwnes i gyfarfod â chyn pêl-droediwr Arsenal, Middlesbrough, Aston Villa, Portsmouth a Lloegr, Paul Merson heddiw i drafod diwygiadau mawr eu hangen ar gamblo. Rhaid inni ddod â’n deddfwriaeth bresennol i’r oes ddigidol ac amddiffyn pobl rhag niwed gamblo. Ni ellir gohirio’r papur gwyn diwygio gamblo y bu hir ddisgwyl ymhellach.

Cefais sioc a thristwch o glywed bod:

  • Ar gyfartaledd, mae un gamblwr yn cyflawni hunanladdiad bob dydd (PHE, Medi 2021)
  • Mae 55,000 o gamblwyr problemus yn 11-16 oed (Comisiwn Hapchwarae, 2019)
  • Daw 60% o elw’r diwydiant gamblo o’r 5% sydd eisoes yn gamblwyr problemus (Pwyllgor Dethol T?’r Arglwyddi)

Diolch i Carolyn Harris AS am drefnu’r digwyddiad pwysig hwn.

#DiwygioGamblo