Mae’r gwleidyddion lleol Lee Waters AS a Nia Griffith AS wedi lleisio’u canmoliaeth am fuddsoddiad o £4.4 miliwn i greu canolfan drochi Cymraeg pwrpasol i roi cymorth i ddisgyblion ddatblygu eu rhuglder yn y Gymraeg, yn ogystal â 228 o leoedd ychwanegol ar gyfer disgyblion yn Ysgol Y Strade.
Cyhoeddwyd y cyllid hwn gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, yn y Senedd yr wythnos diwethaf.
Wrth siarad ar ôl y cyhoeddiad dywedodd Lee Waters MS:
“Mae’r buddsoddiad hwn wedi agor cyfleoedd pellach i fyfyrwyr a rhieni. Mae’r ganolfan drochi yn rhoi opsiwn ychwanegol i rieni ar gyfer addysg eu plant. Hyd yn oed os nad oedd plentyn wedi mynychu Ysgol Feithrin/Cynradd cyfrwng Cymraeg ar ddechrau eu haddysg ni fydd yn rhy hwyr i bobl ystyried addysg cyfrwng Cymraeg.”
“Mae llawer o fanteision i addysg ddwyieithog, er enghraifft, ehangu addysg bellach a dewisiadau gyrfa, yn ogystal ag agor cyfleoedd diwylliannol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 er mwyn sicrhau bywiogrwydd yr iaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n falch o weld y buddsoddiad hwn yn Llanelli.”
Ychwanegodd Aelod Seneddol Llanelli, Nia Griffith:
“Mae hwn yn fuddsoddiad arall i’w groesawu gan Lywodraeth Lafur Cymru mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer disgyblion ein hardal, ac rwy’n falch iawn eu bod yn rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn nyfodol ein plant, er gwaethaf y toriad sylweddol dros y degawd diwethaf yng nghyllideb y mae Cymru’n ei chael gan Lywodraeth y DU.”
Mae’r cyllid ar gyfer Ysgol Y Strade gan Lywodraeth Cymru yn un o nifer o brosiectau a fydd yn derbyn cyfran o’r £30 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg.