Mae goresgyniad Rwsia o’r Wcráin yn ymosodiad nid yn unig ar genedl sofran Ewropeaidd ond ar ddemocratiaeth ei hun.
Rwy’n condemnio gweithredoedd yr Arlywydd Putin yn llwyr. Bydd y weithred ddiangen hon yn achosi dioddefaint di-sail i bobl y Wcráin sy’n wynebu ymosodwyr Rwsiaidd trwy ymosodiadau tir, môr, awyr, seiber a gwybodaeth ffug. Rhaid inni sefyll gyda’r Wcráiniaid yn eu hamser o angen a darparu pa bynnag gefnogaeth y gallwn i’w helpu i amddiffyn eu gwlad a’n gwerthoedd cyffredin.
Mae’n bwysig bod ymateb unedig a difrifol i’r drosedd Rwsiaidd ddiweddaraf hon.
Rhaid i Lywodraeth y DU weithio gyda’n partneriaid yn y G7, NATO a’r Cenhedloedd Unedig i roi’r neges glir i Putin y bydd yn gwbl atebol am ei weithredoedd ac i gryfhau pecyn sancsiynau y DU yn erbyn Rwsia ar unwaith, yn enwedig yn erbyn Putin a’r rhai sydd â chysylltiad uniongyrchol iddo ef. Yn gynwysedig yn y pecyn dylid eithrio Rwsia o systemau talu bancio rhyngwladol er mwyn gosod pwysau ariannol ac economaidd mwyaf posibl.
Ni ellir diystyru difrifoldeb y sefyllfa hon ac mae fy meddyliau gyda phobl Wcráin ar yr adeg beryglus a thrafferthus hon.