Home > Uncategorized > Clodfori prentisiaid ifanc am eu gwaith ymarferol yn y Sied Nwyddau

Ymwelodd prentisiaid a fu’n helpu gyda’r gwaith o adnewyddu Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli, adeilad rhestredig Gradd II, i weld sut mae eu gwaith caled wedi cyfrannu at y bloc swyddfeydd newydd.

Mae’r bloc swyddfeydd yn adeilad deulawr ym mhen gorllewinol y brif Sied Nwyddau, ac adfeiliodd ar ôl i waith ddod i ben yno yn y 1960au. Fel rhan o fentrau hyfforddi Sgiliau Adeiladu Cyfle, ymunodd Ciaran Goddard-Howe (Briciwr), Morgan Richards (Saer), a Sammy Young, myfyrwraig (Saer/Asiedydd) a fanteisiodd ar raglen profiad gwaith “Ar y Safle” CITB â’r contractwr lleol TRJ i weithio ar y prosiect Treftadaeth unigryw hwn.

Yn ogystal â chyflogi prentisiaid o gynllun Rhannu Prentisiaeth Cyfle, Bartek Olszewski (Briciwr) a Kieron Jones-Rees (Plastrwr), bu TRJ yn ymgysylltu â’u prentisiaid traddodiadol uniongyrchol eu hunain Caian Francis, Joel Richards a Dafydd Rees a fu hefyd yn gweithio ar gam gyntaf adnewyddu’r Sied Nwyddau. Cafodd y prentisiaid hyn y dasg gychwynnol o dynnu waliau pared mewnol y swyddfa i greu man agored, yn ogystal â thynnu plastr a malurion oddi ar y waliau.

Roedd yn bleser gan Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli groesawu’r crefftwyr uchelgeisiol hyn yn ôl i weld y cynnydd aruthrol a wnaed yn y bloc swyddfeydd ers iddynt ddechrau ar y safle llynedd.

Dywedodd Nia Griffith AS, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth:

“Mae trawsnewidiad yr adeilad hwn yn gwbl syfrdanol, ac rydym wrth ein bodd gyda’r cyfraniad y mae’r prentisiaid hyn wedi’i wneud i’r gwaith ac yn clywed am y sgiliau ymarferol y maent wedi’u hennill wrth ymwneud â’r prosiect hwn.

Mae’n rhaid ei bod yn edrych fel tasg frawychus iawn i’r rhai a ddaeth i mewn o’r dechrau, ac yn golygu gweithio oriau di-baid yn tynnu allan y tu mewn wrth gynnal nodweddion hanesyddol yr adeilad a gobeithiwn y bydd pawb a gymerodd ran yn elw o’r prosiect am flynyddoedd i ddod.

Yn ogystal â diolch i’r prentisiaid eu hunain a dymuno pob llwyddiant iddynt i’r dyfodol, hoffwn ddiolch i bawb o Cyfle a chontractwyr adeiladu TRJ sydd wedi trefnu a goruchwylio’r prentisiaid. Nid yn unig yw hyn wedi bod o fudd i brosiect y Sied Nwyddau, ond hefyd wedi rhoi hyfforddiant gwerthfawr iawn i’r prentisiaid ac wedi helpu i adeiladu gweithlu medrus ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd Anthony Rees, Rheolwr Rhanbarthol Sgiliau Adeiladu Cyfle,

“Gwych gweld cymaint o ymgeiswyr a phrentisiaid Profiad Gwaith yn cael y cyfle i weithio ar y prosiect ardderchog hwn, gan ddod ag adeilad a godwyd yn wreiddiol yn 1875 yn ôl yn fyw yn 2022.

Da iawn i bawb fu’n ymwneud â’r prosiect hyd yma.”