Roedd yn anrhydedd arwyddo Llyfr Ymrwymiad Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost y DU yn gynharach yr wythnos hon cyn Diwrnod Cofio’r Holocost heddiw.
Mae’n bwysig inni i gyd gymryd amser i gofio’r miliynau o Iddewon ac eraill a fu farw yn yr Holocost a thalu teyrnged i’r goroeswyr.
Rhaid inni hefyd ailddyblu ein hymdrechion i wrthsefyll pob math o hiliaeth a rhagfarn.