Home > Uncategorized > Bws Gwennol Canolfan Brechu Dafen Am Ddim

Mae gwasanaeth bws gwennol am ddim o ganol tref Llanelli i ganolfan frechu Dafen, yn gadael o’r tu allan i’r Llys Ynadon ar Church St, gyferbyn â siop bapurau Corner House ar yr awr a hanner wedi’r awr rhwng 10.30 a 4.40, gan ddychwelyd o Ddafen ar chwarter wedi’r awr a chwarter i’r awr, saith diwrnod yr wythnos.

NB Nid oes gwasanaeth am hanner dydd a 12.15 ar gyfer egwyl cinio’r gyrwyr.

Rhannwch y wybodaeth os gwelwch yn dda.