Home > Uncategorized > Undeb Mamau Cydweli

Roedd hi’n sobreiddiol heddiw i arsylwi tair munud o dawelwch gydag Undeb Mamau Cydweli fel rhan o 16 Diwrnod o Ymgyrch yn erbyn Trais ar sail Rhyw, sy’n ymgyrch fyd-eang sy’n galw am ddiwedd i drais yn erbyn menywod a merched, gan ddechrau bob blwyddyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod (25 Tachwedd) ac yn gorffen ar Ddiwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol (10 Rhagfyr), gan dynnu sylw at yr angen i ni gyd chwarae ein rhan wrth gefnogi goroeswyr ac atal trais yn erbyn menywod a merched yn ein cymdeithas.

A diolch i chi, Undeb y Mamau am eich gwaith trwy gydol y flwyddyn, gan helpu i ddod â thrais ar sail rhyw i ben a chefnogi’r rhai sy’n cael eu heffeithio ganddo.