Pan ymunom â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol ar gyfer glanhau traeth yn Llanelli ?mis diwethaf, nid yn unig y gwnaethom godi sbwriel, ond hefyd cyfrannu at waith arolygu ar y math o sbwriel a ganfuom, gan fod hyn wedyn yn helpu’r MCS i lobïo llywodraethau ar yr eitemau mwyaf problemus.
Er ein bod fel arfer yn tueddu i weld yr eitemau mawr o sbwriel, esboniodd yr MCS sut mae eitemau bach iawn fel plastigau yn fygythiad i fywyd morol gan eu bod yn hawdd eu llyncu.
Fe allwn ni wneud gwahaniaeth trwy dorri allan y plastig mewn nwyddau, felly dyna pam rwy’n falch iawn o gefnogi bil fy nghydweithiwr Llafur, Fleur Anderson, i wahardd plastig mewn cadachau gwlyb.
Gellir eu cynhyrchu, fel llawer o bethau eraill, heb blastigau niweidiol, felly gadewch inni sicrhau bod hynny’n digwydd.