Home > Uncategorized > Mân-werthwr yn lansio cynlluniau cynaliadwyedd newydd

Gwych ymweld â Primark yn Llanelli i glywed am strategaeth gynaliadwyedd newydd y cwmni.

Mae’n galonogol gweld mân-werthwr mor fawr yn ymrwymo i gynaliadwyedd, o ddileu plastig untro i sicrhau bod modd ailgylchu holl ddillad Primark erbyn 2027.

Mae’n bwysig bod y dewisiadau cynaliadwy hyn ar gael i gwsmeriaid am brisiau fforddiadwy. Da gwybod eu bod yn cydnabod undeb llafur gweithwyr siop USDAW.

Diolch i Raf a’r tîm am ymweliad diddorol.