Home > Uncategorized > BT Openreach yn uwchraddio ein band llydan

Efallai nad yw’n edrych fel llawer, ond dyma le mae ffibrau bach wedi’u cysylltu i wneud gwelliannau mawr mewn cyflymderau band llydan.

Yn falch o ymweld â chyfnewidfa ffôn Llanelli yn ddiweddar i weld uwchraddiad enfawr ar y gweill yn ogystal â gwylio cydweithwyr Openreach yn gweithio allan ym Mynea i uwchraddio systemau yno… o’r diwedd… mae’n sbel ers i drigolion dynnu fy sylw at y problemau yn gyntaf. Yn mawr obeithio y bydd hyn yn eu datrys.

Wedi rhoi rhestr atgoffa i Openreach o broblemau preswylwyr eraill yr wyf yn dal i’w dilyn.