Home > Uncategorized > Llongyfarchiadau i Angie’s Baby Cwtch a Just Into Crafts ar gyflawniad Facebook

Gwych i allu ymweld â dwy siop leol, Angie’s Baby Cwtch a Just Into Crafts, heddiw sydd wedi’u dewis i fod yn rhan o’r ymgyrch ryngwladol “Syniadau Da sy’n haeddu cael eu darganfod” a drefnwyd gan Facebook i helpu dathlu gwaith busnesau bach a maint canolig.

Er gwaethaf anawsterau masnachu yn ddiweddar, mae’r ddwy siop yn parhau i ddarparu cynhyrchion a gwasanaethau gwych ac yn arwain y ffordd wrth ddangos y gall siopau annibynnol oroesi a ffynnu yn ein tref.

Da iawn i bawb sy’n cymryd rhan!