Home > Uncategorized > Ysgol Gynradd Dafen yn arwain y byd

Gwych oedd bod yn Ysgol Gynradd Dafen ddoe i’w gweld yn dod yn Ysgol Arloesi Entrecompedu Byd-eang cyntaf y byd.

Mae disgyblion, staff a phobl sy’n ymwneud â’r ysgol wedi gweithio’n galed iawn i gofleidio’r cynllun sy’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar blant o bob oed i ddeall y byd busnes a masnach.

Yn arbennig o ysbrydoledig oedd clywed yn uniongyrchol gan y plant am sut maen nhw’n blaenoriaethu amddiffyn yr amgylchedd a chydweithio ag eraill yn eu gwaith.

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran a phob lwc gyda helpu i rannu’ch profiadau ag ysgolion eraill yn yr ardal leol ac ar draws y DU ac Ewrop!