Home > Uncategorized > Dysgwch am hen hanes Ysgol Copperworks

Ewch i ddarllen y bwrdd gwybodaeth newydd yn yr hen Ysgol Copperworks, yn Teras Morlan, Porth Tywyn, sy’n dweud wrthym am hanes yr ysgol.

Dyma’r diweddaraf yng nghyfres o fyrddau gwybodaeth o amgylch Porth Tywyn, a ddatblygwyd gan Gr?p Treftadaeth Pen-bre a Phorth Tywyn. Fe’i lansiwyd yn swyddogol y bore yma, gyda sgwrs gan Graham Davies ac esboniad o’r arteffactau gan Ellen Davies.

Diolch enfawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o ymchwil, dylunio a gosod y bwrdd, ac i Gyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn am eu cefnogaeth.