Home > Uncategorized > Anogwyd Dinasyddion yr UE yn Llanelli i wneud cais am statws preswylydd sefydlog cyn y dyddiad cau sy’n agosáu’n gyflym

Gyda llai na thair wythnos tan y dyddiad cau ar gyfer dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU i ofyn am “statws preswylydd sefydlog” neu “statws preswylydd cyn-sefydlog”, mae ASau Llanelli, Nia Griffith a Lee Waters, yn annog preswylwyr lleol cymwys i wneud cais cyn gynted â phosibl.

Daeth yr hawl i Ddinasyddion yr UE symud a gweithio yn y DU i ben gyda Brexit ac mae gan rheini a symudodd i’r DU pan oedd y wlad yn dal i fod yn aelod o’r UE (31 Rhagfyr 2020) ac eisiau parhau i fyw a gweithio yma tan 30 Mehefin i wneud cais.

Gall y rhai sydd wedi bod yn y DU am fwy na phum mlynedd fod yn gymwys i gael “statws preswylydd sefydlog”, tra bod y rhai sydd wedi bod yma am lai na phum mlynedd yn gymwys i gael “statws preswylydd cyn-sefydlog”. Mae Dinasyddion yr UE sydd â chaniatâd amhenodol i aros neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r DU wedi’u heithrio.

Dywedodd NIA GRIFFITH, AS Llanelli:

“Dim ond ychydig wythnosau sydd ar ôl i bobl o’r UE, sydd wedi dewis gwneud Llanelli yn gartref iddynt, wneud cais ac rwy’n eu hannog i wneud hynny ar frys. Bydd statws sefydlog yn eu helpu i barhau i weithio yn y DU, cofrestru mewn addysg neu barhau i astudio, teithio i mewn ac allan o’r wlad a chyrchu’r GIG a systemau budd-daliadau os ydyn nhw eisoes yn gymwys i wneud hynny.”

“Gall hyn effeithio ar bobl sydd wedi byw yma ers degawdau, oherwydd os na fyddant yn gwneud cais erbyn 30 Mehefin, byddant yn colli unrhyw fudd-dal prawf modd, gan gynnwys credyd pensiwn, felly gwnewch yn si?r nad oes unrhyw un o’ch teulu yn colli allan.”

“Gellir gwneud cais am statws preswylydd sefydlog ar-lein a’r cyfan sydd ei angen yw Pasbort neu Gerdyn Adnabod yr UE. Trwy gymryd yr amser nawr cyn y dyddiad cau, bydd pobl yn gallu sicrhau’r hawliau sydd ganddyn nhw fel rhan o’r broses Brexit ac arbed cymaint o drafferth iddyn nhw eu hunain yn nes ymlaen.”

Ychwanegodd AS ar gyfer Llanelli, LEE WATERS:

“Mae’n bwysig bod dinasyddion yr UE sy’n byw ac yn gweithio yn Llanelli yn gwneud eu ceisiadau yn ddi-oed os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eisoes. Mae llawer wedi bod yma ers sawl blwyddyn a thrwy lenwi’r ffurflen ar-lein, gallant fanteisio ar yr hawliau y mae statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog yn eu rhoi iddynt.

“Mae cymorth wrth law i unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd cwblhau’r broses ymgeisio ond byddwn yn annog unrhyw ddinasyddion o’r UE neu aelodau o’u teulu i gymryd camau ar frys i sicrhau eu bod yn cychwyn y broses cyn gynted â phosibl.”

Dylid gwneud ceisiadau at: https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families/applying-for-settled-status