Home > Uncategorized > Colledion swyddi Aim Altitude

Cydymdeimlaf gyda’r gweithwyr a’u teuluoedd, a fydd yn ddigalon ei fod wedi dod i hyn, er gwaethaf y ffaith bod cynrychiolwyr y gweithlu a’r Undeb Unite wedi cynnal cyfarfodydd gyda’r rheolwyr lle rhoddwyd dadleuon grymus dros gadw’r ffatri ar agor.

Roedd yn ymddangos i ni fod y cyfan yn benderfyniad terfynol.

Am flwyddyn bellach, rydym wedi bod yn gofyn i Lywodraeth y DU am Becyn Covid Diwydiant Awyrennau penodol, oherwydd gall pawb weld bod y sector wedi cael ei daro’n wael iawn, a bod unrhyw adferiad yn dibynnu ar benderfyniadau gan nifer o lywodraethau a gweithredwyr, a gallai bargen o’r fath wedi gwneud byd o wahaniaeth.

Heb fargen o’r fath, rwy’n ofni y bydd llawer o swyddi eraill yn y diwydiant awyrennau ac awyrofod mewn perygl hefyd.