Home > Uncategorized > Tawelwch amlosgfa dan fygythiad

Mae’r rhagolwg y gallai s?n a chynnwrf ystâd ddiwydiannol newydd amharu ar wasanaethau angladdol wedi achosi dicter ymhlith bobl leol yn erbyn cynlluniau ar gyfer ystâd ddiwydiannol a gynigiwyd gan Fwrdd Gweithredol Annibynnol Cyngor Sir Caerfyrddin a rheolwyd gan Plaid.

Ar 8th Mawrth, cytunodd y Bwrdd Gweithredol dan arweiniad Plaid yn unfrydol i drafod telerau a llunio cytundeb opsiwn gyda pherchennog tir cyfagos y safle.

Galwodd y Cynghorydd Rob James, Arweinydd Gr?p Llafur Cyngor Sir Caerfyrddin, gyda chefnogaeth chwe Chynghorydd Llafur arall, yn ffurfiol y dylid ail ystyried y penderfyniad – gan nodi nad oedd y gwerthiant yn cydymffurfio â’r polisïau presennol gan gynnwys Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a datganiad y Cyngor o Argyfwng Hinsawdd.

Dywedodd y Cynghorydd James:

“Mae dyfodol y safle ym Mhenprys bellach gyda Bwrdd Gweithredol y Cyngor. Heb werthiant y tir, mae’n annhebygol iawn y bydd y datblygiad yn mynd yn ei flaen. Felly, yn y bôn, mae Cynghorwyr Plaid ac Annibynnol yn cytuno ag egwyddor y datblygiad trwy lunio cytundeb opsiwn.”

Ni wnaeth Nia Griffith AS Llanelli brathu ei thafod:

“Rwyf wedi arswydo y dylai Cynghorwyr Plaid ac Annibynnol meddwl am osod ystâd ddiwydiannol wrth ymyl Amlosgfa Llanelli. Beth ydyn nhw’n meddwl? Nid yw hyn yn dangos unrhyw barch o gwbl tuag at alarwyr. Ar adeg sy’n peri trallod mawr, o leiaf mae’r Amlosgfa ar hyn o bryd yn cynnig gosteg a thawelwch.

Ar ben hynny, pam ceisio gosod ystâd ddiwydiannol ar ddarn o dir maes glas, yn lle gwneud y defnydd gorau ac uwchraddio’r safleoedd diwydiannol a thir llwyd presennol sydd gennym yn Llanelli? “

Ychwanegodd Llanelli MS, Lee Waters:

“Mae angen unedau modern arnom i fusnesau dyfu a datblygu ond mae hwn yn lleoliad ofnadwy. Bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar leoliad heddychlon yr amlosgfa. Ac rwy’n bryderus iawn bod y Cyngor yn trefoli’r darn rhwng Dafen a Llangennech yn raddol. Mae hwn yn syniad gwael ac rwy’n falch bod cynghorwyr Llafur lleol wedi helpu i’w alw i mewn yn ffurfiol.”