Yfory, byddaf yn pleidleisio yn erbyn Bil yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd.
Mae’r bil yn llanast llwyr.
Mae’r Torïaid wedi ei danseilio trwy gynnwys llawer o gynigion annerbyniol gan gynnwys mesurau llym sy’n gosod rheolaethau anghymesur ar fynegiant rhydd a’r hawl i brotestio.
Mae hefyd yn methu â mynd i’r afael â phroblemau sylfaenol sydd wedi’u gwreiddio yn y system cyfiawnder troseddol ac yn y gymdeithas ehangach. Nid oes unrhyw beth i ddioddefwyr troseddau, dim i amddiffyn menywod a dim byd ar adsefydlu nac atal troseddu.
Mae gennym argyfwng difrifol yn ein system heddlu a chyfiawnder sydd wedi’i chreu gan ddegawd o doriadau ac ideoleg Dorïaidd aflwyddiannus. Gellid bod wedi cyflawni bil a feddyliwyd yn ofalus, wedi’i ategu gan gynllun cynhwysfawr i ddod â’n system cyfiawnder troseddol yn ôl o’r dibyn.
Yn lle mae wedi’i ysgrifennu’n wael, yn wrth-ddemocrataidd ac yn llawn bylchau.
Dyna pam y byddaf yn ei wrthwynebu pan ddaw gerbron T?’r Cyffredin yr wythnos hon.