Home > Uncategorized > Wythnos Parch Cenedlaethol i Weithwyr Siop

Fel aelod o undeb llafur USDAW, rwy’n cefnogi “Wythnos Parch Cenedlaethol i Weithwyr Siop”.

Nid yw bywyd ym maes manwerthu byth yn hawdd ond mae gweithwyr siop wedi gweithio i’r eithaf yn ystod y misoedd diwethaf i’n helpu trwy’r pandemig. Yn frawychus, mae digwyddiadau o ymosodiadau, bygythiadau a cham-drin yn erbyn gweithwyr siop wedi parhau gyda’r gyfradd yn dyblu eleni o’i chymharu â 2019. Dyna pam mae angen newid yn y gyfraith.

Mae’n hanfodol creu trosedd benodol sy’n amddiffyn gweithwyr siop ac sy’n cario cosb gref fel ataliad.

Oherwydd COVID, eleni ni allaf ymuno ag ymgyrchwyr Llanelli yn bersonol i ddangos fy nghefnogaeth ond anogaf bawb sy’n gwerthfawrogi’r gwaith gwerthfawr y maent yn ei wneud, i arwyddo ac ymateb i’w galwad am weithredu.

https://www.usdaw.org.uk/fff