Home > Uncategorized > Rheolau COVID symlach i Gymru o ddydd Llun nesaf

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford newydd gyhoeddi cyfres o reolau newydd, symlach i ddechrau yng Nghymru o ddydd Llun, 9fed Tachwedd.

Mae’r mesurau cenedlaethol newydd yn cynnwys:

  • Bydd angen cynnal pellter cymdeithasol o ddau fetr a gwisgo masgiau mewn mannau cyhoeddus amgaeedig, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus a thacsis.
  • Bydd y gofyniad i weithio gartref pryd bynnag y bo hynny’n bosibl yn parhau.
  • Dim ond yn eu cartref eu hunain y dylai pobl gwrdd â’u ‘swigen’ a dim ond dau gartref fydd yn gallu ffurfio ‘swigen’. Os bydd un person o’r naill gartref neu’r llall yn datblygu symptomau, dylai pawb hunan-ynysu ar unwaith.
  • Gall hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgaredd wedi’i drefnu dan do a hyd at 30 mewn gweithgaredd wedi’i drefnu yn yr awyr agored, ar yr amod bod yr holl fesurau bellter cymdeithasol, hylendid dwylo a diogelwch COVID eraill yn cael eu dilyn.
  • Bydd pob adeilad, fel bwytai, caffis, tafarndai a champfeydd, a gaewyd yn ystod y toriad tân, yn gallu ailagor. Yn dilyn y cyhoeddiad am gloi Lloegr, mae Gweinidogion yn cael trafodaethau parhaus gyda’r sector lletygarwch ynghylch y rheolau manwl ar gyfer ailagor. Mae hyn yn cynnwys cyfarfod mewn mannau cyhoeddus dan do.
  • Fel rhan o gadw ein risgiau mor isel â phosibl, dylai pobl osgoi teithio cymaint â phosibl pan nad yw’n hanfodol. Ni fydd unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar deithio yng Nghymru i breswylwyr, ond dylai teithio rhyngwladol fod am resymau hanfodol yn unig.

Yn ychwanegol:

  • Bydd pob ysgol yn ailagor.
  • Bydd eglwysi ac addoldai yn ailddechrau gwasanaethau.
  • Bydd gwasanaethau awdurdodau lleol yn ailddechrau ond yn seiliedig ar amgylchiadau lleol.
  • Bydd canolfannau cymunedol ar gael i grwpiau bach gwrdd yn ddiogel y tu mewn yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae’r toriad tân yr ydym ynddo ar hyn o bryd wedi cael ei arsylwi’n dda yma yn Llanelli ond mae’n dal yn bwysig ein bod yn parhau i weithio gyda’n gilydd yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf a meddwl am yr hyn y gallwn i gyd ei wneud i #ArbedBywydau a #AmddiffynYGIG.