Heddiw, rwy’n cefnogi #DiwrnodRhubanGwyn, sy’n nodi dechrau 16 diwrnod o weithredu i godi ymwybyddiaeth am drais yn erbyn menywod.
Mae 2020 wedi gweld cynnydd syfrdanol mewn cam-drin domestig a mathau eraill o drais yn erbyn menywod ledled y byd ac ni ddylem fyth aros yn dawel.
Gall pawb weithio gyda’i gilydd i atal trais a sicrhau bod ein cartrefi a’n cymunedau yn ddiogel i bawb.