Home > Uncategorized > Defnydd gwrthgymdeithasol o dân gwyllt

Mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf ynghylch y defnydd gwrthgymdeithasol o dân gwyllt.

Rwy’n cydnabod y straen a’r pryder y gallant eu hachosi i blant llai, pobl h?n a’r rhai sy’n dioddef o faterion iechyd meddwl, yn ogystal ag i anifeiliaid anwes a da byw. Rwyf hefyd yn cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl sy’n defnyddio tân gwyllt, yn gwneud hynny’n gyfrifol.

Er 2005, gwaharddwyd gwerthu tân gwyllt i’r cyhoedd, ac eithrio gan fasnachwyr trwyddedig. Mae’n drosedd defnyddio tân gwyllt ar ôl 11pm a chyn 7am heb ganiatâd, ac eithrio ar nosweithiau tân gwyllt, pan fydd yr amseroedd yn cael eu hymestyn. Ar Noson Tân Gwyllt y torbwynt yw 12 hanner nos.

Gan ystyried oedran ein rheoliadau tân gwyllt cyfredol, dylai Llywodraeth y DU edrych arnynt ar frys i benderfynu ar effaith newidiol tân gwyllt ac a oes angen unrhyw newidiadau i’r gyfraith.

Eleni, bydd Noson Tân Gwyllt yn wahanol iawn i’r rhai sydd wedi mynd o’r blaen.

Byddwch yn ddiogel, yn gyfrifol ac yn ystyriol o eraill lle y gallwch.