Rhaid i lywodraeth y DU gweithio’n adeiladol â TATA, Llywodraeth Cymru ac undebau llafur a chyflwyno’r pecyn cymorth angenrheidiol.
Mae dur yn sector hanfodol, strategol bwysig a fydd yn hanfodol ar gyfer ein hadferiad economaidd ac sydd eisoes wedi wynebu heriau digynsail yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae angen buddsoddiad arnom gan y Trysorlys i sicrhau ei fod yn parhau i gael dyfodol cynaliadwy yma yn y DU.