Home > Uncategorized > Ymweliad â safle digwyddiad rheilffordd Llangennech

Diolch i Bill Kelly, Cyfarwyddwr Llwybr Network Rail Cymru a’r Gororau am hwyluso ymweliad â safle’r digwyddiad rheilffordd yn Llangennech, ac â Gavin Bown o Adnoddau Naturiol Cymru am ein cyfarfod yno.

Brawychus oedd gweld maint y difrod yn agos a’r hyn yr oedd yn rhaid i ddiffoddwyr tân ei wynebu. Trawiadol oedd gweld craen enfawr i godi’r tanceri. Diolch i bawb sy’n clirio’r llinell ac yn pwmpio a chymryd difwynwyr i ffwrdd.

Llawer o gwestiynau i’w hateb o hyd, a phryderon am yr effaith ar yr aber.