Home > Uncategorized > Mynediad i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cychwyn ar gyfer cenhedlaeth iau Llanelli

Y mis hwn, am y tro cyntaf bydd pobl ifanc Llanelli sy’n troi’n 18 oed yn elwa o Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant ac yn gallu cael gafael ar yr arian a roddwyd o’r neilltu ar eu cyfer gan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf.

Yma yn Llanelli yn unig, crëwyd 7,765 o gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Dydw i ddim eisiau i unrhyw berson 18 oed golli allan ar ei gronfa ymddiriedolaeth plant sydd yn eiddo iddyn nhw.

Ar gyfer pob plentyn a anwyd ar ôl 1 Medi 2002, nes i Dorïaid David Cameron gael gwared ar y cynllun yn 2011, rhoddodd y Llywodraeth Lafur o leiaf £250 o’r neilltu ar eu cyfer. Aeth yr arian i gyfrif y gallai eu rhieni ei agor gan ddefnyddio taleb a anfonwyd gan y llywodraeth. Os na ddefnyddiwyd y daleb gan eu rhieni, sefydlodd y llywodraeth gyfrif ar eu cyfer. Gallai rhieni, neiniau a theidiau ac eraill ychwanegu at y cyfrif hefyd.

Roedd y syniad yn syml. Mae pobl sydd â mynediad at gynilion eisioes wedi cael y gallu i roi blaendal ar fflat, prynu car, cychwyn busnes neu beth bynnag arall maen nhw’n dewis ei wneud gyda’r arian hwnnw. Roedd Llafur eisiau estyn i bob person ifanc yr un cyfleoedd yr oedd teuluoedd cyfoethocach yn eu cymryd yn ganiataol.

Mae pob cronfa ymddiriedolaeth, a phob dewis y mae’n ei alluogi, yn ein hatgoffa o’r gwahaniaeth y gall llywodraeth Lafur ei wneud.

https://www.gov.uk/cronfeydd-ymddiriedolaeth-plant