Home > Uncategorized > Cefnogi Ffermio Prydain

Heddiw yw #BackBritishFarmingDay ac rydw i’n cefnogi’r rôl hanfodol y mae ffermwyr yn ei chwarae wrth gynhyrchu bwyd i’r genedl a gofalu am gefn gwlad. Mae diwydiant bwyd a ffermio’r DU werth mwy na £120 biliwn i’r economi genedlaethol ac yn cyflogi dros 4 miliwn o bobl.

Mae’r sector ffermio yn werthfawr nid yn unig yma yn Sir Gaerfyrddin ond i Gymru gyfan a’r DU. Yn gywir, nodwyd ffermwyr fel gweithwyr allweddol yn ystod pandemig Coronafeirws. Diolch i’r rhai yn fy etholaeth i, a’r gadwyn gyflenwi bwyd ehangach, roeddem yn gallu sicrhau bod silffoedd archfarchnadoedd yn cael eu cadw a bod y genedl yn cael ei bwydo yn ystod yr amser anodd hwn. Rwy’n ddiolchgar am bopeth maen nhw wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud.

Mae’r rhain yn amseroedd ansicr ar gyfer bwyd a ffermio Prydain a bydd yr ychydig fisoedd nesaf yn hollbwysig.

Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i amddiffyn y lefelau diogelwch bwyd, lles anifeiliaid a’r safonau amgylcheddol yr ydym yn eu gwerthfawrogi rhag bwyd wedi’i fewnforio a fyddai’n anghyfreithlon i’w cynhyrchu yma mewn unrhyw fargeinion masnach yn y dyfodol.