Home > Uncategorized > Canolfan Ragoriaeth CYCA yn agor yn Llanelli

Balch o siarad yn agoriad swyddogol y bore yma yng Nghanolfan Ragoriaeth CYCA newydd yn Noc y Gogledd, Llanelli.

Diolch i waith eu Prif Swyddog Gweithredol ysbrydoledig, Tracy Pike MBE, staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr, mae CYCA wedi gwneud cyfraniad enfawr i helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd yn Sir Gaerfyrddin gan ddod â 40 mlynedd o brofiad i broblemau y mae llawer yn eu hwynebu yn eu bywydau beunyddiol.

Bydd y Ganolfan newydd yn gyfleuster gwych a fydd yn helpu’r Elusen i ffynnu am nifer o flynyddoedd i ddod.