Home > Uncategorized > Angen atebion ar adroddiad am drên yn dod oddi ar y cledrau yn Llangennech

Rwy’n croesawu cyhoeddiad canfyddiadau cyntaf archwiliad y Bwrdd Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd o achosion y digwyddiad rheilffordd mawr a’r tân dilynol yn Llangennech ddiwedd mis Awst.

Yn amlwg, bydd yn rhaid i ni aros am gwblhad yr ymchwiliad a’r adroddiad terfynol, ond mae’n peri pryder mawr i mi nad yw’r problemau o freciau yn jamio ar un o’r wagenni yn annhebyg i’r problemau a nodwyd ar wagen yn ôl yn 2017 a achosodd difrod ymestynnol i’r trac rhwng Ferryside a Llangennech.

Cododd y Bwrdd Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd bryderon bryd hynny ynghylch gweithdrefnau cynnal a chadw, ac yn awr mae angen ateb y cwestiynau difrifol ynghylch a yw’r gwelliannau angenrheidiol wedi’u gwneud i’r gweithdrefnau cynnal a chadw hynny, ac os na, pam ddim. Roedd yn wyrth na chafodd neb ei anafu na’i ladd yn ddifrifol y tro hwn, ac, ar ôl i ni gael yr adroddiad terfynol, mae angen cymryd pob cam i sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto.

Byddaf yn erlid pawb sy’n gyfrifol i weithredu’r gwelliannau angenrheidiol yn llawn heb unrhyw oedi.