Home > Uncategorized > Dathlu glanhau pwll yr hwyaid ac agor t? hwyaid ym Mharc Howard

Roedd yn fraint wirioneddol y bore yma i ddathlu glanhau’r pwll hwyaid ym Mharc Howard, gan ddatgan y pwll a th? hwyaid ar agor.

Diolch enfawr i aelodau Cymdeithas Parc Howard a ymgymerodd, dan arweiniad David Bannister, â’r dasg enfawr o lanhau’r pwll mor lân fel y gallwch nawr weld ei waelod, ac i Men’s Shed Llanelli am adeiladu t? hwyaid mor odidog fe roddwyd y llysenw Duckingham Palace iddo gan Philip Thomas, Cadeirydd Cymdeithas Parc Howard, sydd wedi goruchwylio’r prosiect ac wedi agor y digwyddiad heddiw.

Mae’n ased go dda i Barc Howard, a gwn y byddwn i gyd yn mwynhau treulio amser yno yn gwylio’r hwyaid.