Home > Uncategorized > Datganiad ar ddigwyddiad rheilffordd Llangennech

Hoffwn ddweud diolch enfawr i’r gwasanaethau brys a phawb a fu’n ynghlwm ag ymateb i’r digwyddiad mawr yn Llangennech yn hwyr neithiwr, ac mae’n rhyddhad mawr i mi glywed bod y criw trên heb eu hanafu ac nad oedd unrhyw breswylwyr wedi’u niweidio.

Wrth gwrs, ni fyddwn yn gwybod beth achosodd y digwyddiad ofnadwy hwn nes bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal, ond, yn y cyfamser, rwyf wedi gofyn i Network Rail am sicrwydd ynghylch diogelwch y trac ar hyd yr arfordir, o Langennech i Gydweli a thu hwnt, oherwydd bod rhannau o’r arfordir yn agored iawn, ac rydym wedi profi gwyntoedd grym, glaw trwm a llanw uchel iawn yn yr wythnos ddiwethaf.

Rwyf hefyd yn gofyn pa ragofalon ychwanegol y gellir eu cymryd i dawelu meddyliau pobl â’u cartrefi yn llawer agosach at y rheilffordd na’r rhai ag effeithiwyd yn Llangennech.

Mae fy mhryder mawr arall yn ymwneud â llygru’r aber; ar hyn o bryd rydym yn aros i Adnoddau Naturiol Cymru allu gwneud asesiad, ac yna mae angen yr ymdrech fwyaf arnom i geisio lleihau’r difrod.