Home > Uncategorized > Trigolion Llanelli yn arwain cynhadledd newid hinsawdd ar-lein

Gydag effeithiau’r Argyfwng Hinsawdd yn dechrau gafael ledled y byd, rwyf wedi bod yn gweithio gyda thrigolion o Lanelli i weld beth y gellir ei wneud yn lleol i wneud ein cymunedau mor wyrdd â phosibl.

Yr wythnos nesaf, byddwn yn cynyddu ymdrechion trwy gynnal cynhadledd ar-lein i rannu syniadau ar gynlluniau a phrosiectau ar gyfer Llanelli a fydd yn helpu teuluoedd, busnesau a grwpiau eraill i arwain y ffordd wrth greu tref fwy cynaliadwy, ecogyfeillgar.

Yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, 4ydd Awst 2020 am 7pm, bydd y cyfarfod “Green Llanelli – think global, act local” yn trafod ffyrdd o wella a gwarchod bywyd gwyllt a thirwedd naturiol yr ardal, cyrraedd targedau uchelgeisiol a fydd yn arwain tuag at sero carbon a sut i annog mwy o bobl i fyw mewn ffordd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.

Mae llawer o drigolion yn awyddus i weld gweithredu ar raddfa leol yn ogystal ag un fyd-eang a bydd y gynhadledd hon yn rhoi cyfle i weld arfer gorau, cael dadl wybodus ac angerddol a thrafod yr hyn y gellir ei wneud yma yn Llanelli. Er mwyn cofrestru i fynychu’r gynhadledd neu i ddarganfod mwy am Gr?p Green Llanelli anfonwch e-bost at greenllanelli@gmail.com i gael mwy o wybodaeth.