Home > Uncategorized > “Mae angen Cyllideb Nôl i’r Gwaith” ar gyfer Llanelli – mae ffigurau’n dangos yr angen am becyn swyddi brys

Mae Aelod Seneddol dros Lanelli, Lee Waters, a Nia Griffith AS wedi bod yn pwysleisio pwysigrwydd adeiladu economi’r dyfodol yn eu seneddau ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gael cyllideb argyfwng ‘Yn ôl i’r Gwaith’ sy’n canolbwyntio ar swyddi a bywoliaethau.

Mae’r dadansoddiad o ddata marchnad lafur newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos graddfa’r her economaidd sy’n wynebu Llanelli, wrth i hawlwyr am Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau diweithdra eraill yng Nghymru yn fwy na dyblu i bron i 122,000. Mae’r ffigurau hyn yn dangos marchnad swyddi dan bwysau difrifol ac angen mawr am Gyllideb Nôl i’r Gwaith.

Yn ôl pob sôn, mae Llywodraeth y DU wedi gohirio ei chyllideb lawn nesaf tan yr hydref, gan godi pryderon bod ymateb iechyd araf a chymysglyd bellach yn cael ei ddilyn gan ymateb araf a chymysglyd i arbed swyddi.

Yn y cyfamser, mae ffigurau a ryddhawyd gan Lywodraeth y DU yn dangos bod 1 o bob 5 o’r gweithlu (316,500) wedi’u rhoi ar gennad yng Nghymru tra bod 102,000 arall o’r gweithlu’n defnyddio’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig.

Hefyd, gostyngodd swyddi gwag 60% ledled y DU rhwng mis Chwefror a mis Mai, gyda chwympiadau mwy serth mewn rhai sectorau. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cwymp o 80% mewn adeiladu, sy’n cyflogi 5.1% o weithwyr yng Nghymru
  • Lleihad o 94% a 70% mewn masnach modur a manwerthu, sy’n cyflogi tua 12.9% o weithwyr yng Nghymru
  • Cwymp o 94% mewn lletyaeth a gwasanaethau bwyd, sy’n cyflogi 8.7% o weithwyr yng Nghymru
  • Lleihad o 85% yn y celfyddydau, adloniant a hamdden, gan gyflogi 2.1% o weithwyr yng Nghymru

Dywedodd AS Llanelli, NIA GRIFFITH:

“Dim ond yr wythnos diwethaf ymunais ag ASau eraill mewn trafodaethau â phenaethiaid UK Steel a Tata Steel. P’un a ydym yn edrych ar ddur neu weithgynhyrchu ehangach, mae’n amlwg bod angen hwb sylweddol ar yr economi er mwyn ei hailddechrau. Gyda’r wlad ar drothwy dirwasgiad cyn pandemig COVID19, rhaid i Lywodraeth y DU ysgogi twf – dyna pam mae Llafur yn galw ar y Canghellor i gyflwyno Cyllideb Nôl i’r Gwaith, mentrus.

“Mae angen twf yn yr economi – yn y tymor byr trwy ddod â phrosiectau isadeiledd ymlaen ac ysgogi galw, fel y gwnaeth y Llywodraeth Lafur gyda’r cynllun sgrapio ceir ar ôl argyfwng ariannol 2007 ac yna buddsoddi tymor hir yn swyddi’r dyfodol. Rhaid i’r llywodraeth hefyd sicrhau nad yw’r gefnogaeth hanfodol a ddarperir gan y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig yn cael eu tynnu’n ôl yn rhy fuan, a bod unrhyw ciliad wedi’i deilwra i anghenion penodol cwmnïau a sectorau yng Nghymru.”

Ychwanegodd Aelod Seneddol Llanelli, LEE WATERS:

“Mae’r ffigurau hyn yn dangos na all Llywodraeth y DU fforddio gohirio ei chyllideb lawn nesaf tan ar ôl yr haf a rhaid iddi gyflwyno Cyllideb Nôl i’r Gwaith ar frys i amddiffyn swyddi a bywoliaethau yn Llanelli.”

“Yn Llywodraeth Cymru, rydym wedi bod yn cydnabod, er bod rhai diwydiannau mewn sefyllfa dda i ail-adfer ar ôl y cyfnod clo, nid yw hi’n busnes fel arfer i bob sector a bod angen i ni edrych ar fuddsoddi yn swyddi’r dyfodol. Felly, er enghraifft, os mai’r nod yw symud drosodd i gerbydau trydan, yna mae angen i ni yng Nghymru fod yn rhan o’r gadwyn ddatblygu a chyflenwi honno. Mae hynny’n golygu nid yn unig gweledigaeth a chefnogaeth Llywodraeth Cymru sydd angen, ond arweinyddiaeth a chydlynu dilys gan Lywodraeth y DU.”