Home > Uncategorized > Teyrngedau Diwrnod VE ym Mryn Gaer, Llanelli

Dydd Gwener diwethaf, ymunais yn y stryd â thrigolion Bryn Gaer i gofio’r rhai a oedd wedi rhoi cymaint yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel rhan o goffâd 75 mlynedd ers Diwrnod VE.

Gwnaethom ddistewi am ddau funud o dawelwch am 11am wrth gadw pellter cymdeithasol fel rhan o ddigwyddiad a fynychwyd gan breswylwyr ag arhosodd yn gerddi eu hunain.

Trefnwyd yr achlysur gan gynghorydd Dafen, Rob Evans, ac roedd yn cynnwys arddangosfa o bethau cofiadwy Dennis Allan Cleaver o gyfnod y rhyfel, gan gynnwys map a chofnod llawysgrifen o’r holl gyrchoedd bomio yr oedd yn rhan ohono tra’n aelod o Reolaeth Awyrennau Bomio a gedwir gan ei fab, Wayne Cleaver, a fynychodd y digwyddiad. Cafodd yr eitemau eu harddangos yng ngardd Mr Dai Twist a wnaeth hefyd dod o hyd i recordiadau o’r Caniad Olaf a’r ddwy anthem genedlaethol i’w ffrindiau a’i gymdogion ganu iddynt.

Er gwaethaf cyfyngiadau COVID-19, roedd pobl ym Mryn Gaer yn dal yn awyddus i ddangos eu parch ac wedi gwneud hynny mewn ffordd deimladwy ac emosiynol iawn. Roedd pobl yn cadw pellter diogel bob amser trwy gydol y coffâd ond roedd yn ffordd bwysig o ymgynnull i atgoffa ein hunain o’r aberthau a wnaeth llawer o bobl er mwyn rhoi’r rhyddid yr ydym ni yn eu mwynhau heddiw.