Home > Uncategorized > Cyfarfod ar-lein cynrychiolwyr senedd ieuenctid

Hyfryd oedd sgwrsio yn ddigidol yn gynharach heddiw gydag Arwen Skinner, cynrychiolydd Senedd Ieuenctid y DU sydd newydd ei hethol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

Buom yn siarad am ymgyrchoedd eco, gwell cefnogaeth gofal iechyd meddwl yn ogystal â sut y gall pobl ifanc cael rôl fwy gweithredol wrth ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n eu heffeithio. Roedd yn braf clywed gan rywun sydd â’r fath egni a brwdfrydedd ac sydd yn amlwg gyda syniadau gwych ar sut y gall adeiladu cysylltiadau â phobl ifanc ledled y sir. Rwy’n si?r y bydd hi’n gwneud gwahaniaeth enfawr yn ei rôl newydd.

Pob lwc Arwen gyda’r flwyddyn i ddod!