Mae paentiad celf graffiti sy’n cyfleu gwerthfawrogiad trigolion lleol am ymdrechion staff y GIG yn ystod argyfwng COVID-19 wedi’i drosglwyddo’n swyddogol i Ysbyty’r Tywysog Phillip.
Wedi’i greu gan yr artist stryd, Lat Lim, mae’r llun yn cynnwys darlun o staff y GIG mewn dillad llawfeddygol ac yn defnyddio’r geiriad “NHS Strikes Back” gan gyfeirio at yr ymadrodd enwog Star Wars. Wedi’i drefnu gyda chymorth cynghorydd Dafen, Rob Evans, a phreswylydd Llanelli, Stella Faye Millet, bydd y darn nawr yn cael ei roi y tu mewn i Uned Gofal Dwys yr ysbyty.
Mae’r gwaith celf syfrdanol hwn yn deyrnged addas i bawb sy’n ymwneud â’r GIG yn lleol, gan weithio bob dydd i’n cadw’n ddiogel ac yn iach. Gobeithio y bydd ei natur drawiadol, ddisglair yn atgoffa staff a chleifion ein bod ni gyd yn eu cefnogi yn ystod yr adeg anodd hon.
Roedd yn fraint gallu ei gyflwyno i’r staff gweithgar yn Ysbyty’r Tywysog Phillip a rhoi gwybod iddynt am y cynhesrwydd a’r parch sydd gan bobl Llanelli atynt.