Home > Uncategorized > Trefniadau’r Swyddfa Etholaethol

Dros yr wythnosau diwethaf, mae fy staff a minnau wedi bod yn gweithio o bell, yn delio â channoedd o achosion ychwanegol oherwydd y Coronafeirws.

Rydym yn parhau i fynd i’r afael â phryderon a gyflwynwyd atom gan etholwyr ar lawer o faterion gan gynnwys yr angen am fwy o help i’r rheini sydd heb eu cynnwys yng nghyhoeddiadau diweddar y Canghellor, gan wthio am gyflenwadau offer diogelwch personol (PPE) digonol ar gyfer ein gweithwyr allweddol rheng flaen, taclo cyflogwyr twyllodrus, helpu’r rhai sy’n cael anhawster gyda’r system fudd-daliadau a lobïo’r Swyddfa Dramor am gefnogaeth i drigolion lleol sy’n sownd dramor.

Bu adroddiadau yn y cyfryngau heddiw o gynnydd o £10k yn “dreuliau” ASau oherwydd Coronafeirws. Mewn gwirionedd, cronfa dros dro yw hwn a sefydlwyd i brynu offer angenrheidiol yn unig fel y gall staff weithio o gartref yn ystod y cyfnod clo. Nid yw’n arian parod ar gyfer tâl neu gyflog ychwanegol ac ni ellir ei ddefnyddio at unrhyw bwrpas arall. Mae fy swyddfa eisoes yn gweithredu gyda’r hyblygrwydd angenrheidiol a gallaf sicrhau etholwyr na fyddaf yn hawlio dim o’r cyllid ychwanegol hwn o gwbl.

Gweler manylion cyswllt fy swyddfa uchod pe bai angen cyngor neu gymorth ar unrhyw un yn ystod yr amser anodd hwn, gan gynnwys penwythnos y Pasg.

Wrth i’r ?yl y banc agosáu a thywydd da yn cael ei ragweld, os gwelwch yn dda #ArhoswchAdrefAchybBywydau.

Dymunaf Pasg hapus iawn i chi i gyd!