Home > Uncategorized > Proses ymgeisio Cynllun Cadw Swydd ar agor

Rwy’n annog busnesau Llanelli i ystyried ceisio am gymorth o dan Gynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU er mwyn amddiffyn swyddi a bywoliaethau yn economi Gorllewin Cymru sydd dan fygythiad oherwydd argyfwng COVID-19.

O dan y cynllun, bydd Llywodraeth y DU yn talu 80% o gyflogau gweithwyr ar gennad yn ogystal ag unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol a phensiwn gan gyflogwyr os cânt eu rhoi ar gennad. Agorodd y broses ymgeisio am y cyllid heddiw, wedi’i gapio ar £2.5k y gweithiwr, gyda dros 67k o hawliadau wedi eu derbyn yn ystod y 30 munud cyntaf.

Bydd cadw cymaint o weithwyr â phosibl ar y rhestr gyflogau yn eu helpu i ddelio ag effeithiau economaidd uniongyrchol COVID-19 a hefyd yn mynd yn bell i leihau hyd a difrifoldeb unrhyw ddirwasgiad dilynol.

Dylid gwneud hawliadau ar-lein a gall unrhyw sefydliad sydd â rhestr gyflog yn y DU, er enghraifft busnesau ac elusennau, gael mynediad i’r cynllun. Yn amodol ar wiriadau diogelwch a thwyll, dylai’r taliadau cael ei wneud gan Cyllid a Thollau EM o fewn chwe diwrnod gwaith.

Bydd cyflwyno’r cynllun yn effeithiol er mwyn gael cymorth ariannol yn gyflym i’r rheng flaen yn brawf allweddol arall i Lywodraeth y DU. Gwn fod angen help ar frys ar lawer o fusnesau yn Llanelli felly ni allwn fforddio unrhyw oedi yn y broses ymgeisio na thalu arian i gyflogwyr lleol.

Gellir gweld canllawiau manwl ar y Cynllun Cadw Swyddi yma:

https://www.gov.uk/guidance/claim-for-wage-costs-through-the-coronavirus-job-retention-scheme

Gellir gwneud ceisiadau yma: https://www.gov.uk/guidance/claim-for-wages-through-the-coronavirus-job-retention-scheme#how-to-claim