Home > Uncategorized > Penodiad Ysgrifennydd yr Wrthblaid dros Gymru

Mae’n anrhydedd enfawr cael cais gan ein harweinydd newydd, Keir Starmer, i wasanaethu yn ei Gabinet wrthblaid fel Ysgrifennydd yr wrthblaid dros Gymru.

Ar yr adeg anodd hon, fy mlaenoriaeth yw cefnogi fy nghydweithwyr yn y Llywodraeth Cymru wrth iddynt ymateb i her enfawr y pandemig coronafeirws.

Mae’n hanfodol ein bod i gyd yn dilyn arweiniad y llywodraeth, yn aros adref ac yn cefnogi ymdrechion ein GIG Cymreig a gweithwyr allweddol eraill, wrth i lawer ohonynt beryglu eu hunain i ofalu am eraill ac achub bywydau.

Mae wedi bod yn fraint bod yn Ysgrifennydd Amddiffyn yr Wrthblaid a threulio cymaint o amser yn gweld gwaith anhygoel ein Lluoedd Arfog yn uniongyrchol. Maent yn gwasanaethu ein gwlad â medr a phroffesiynoldeb aruthrol, fel maent yn eu gwneud ar hyn o bryd yn ymateb i’r firws.