Home > Uncategorized > Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y menywod

Hoffwn estyn ddiolch i Bartneriaeth Cymuned Llanelli a phawb sydd wedi helpu sicrhau llwyddiant Diwrnod Rhyngwladol y menywod yn Llanelli. Am agoriad ysbrydoledig gan Yr Athro Izo Iwobi OBE. Dyma fenyw sydd wedi gorfod goroesi sawl achos o ragfarn. Mwynheais hefyd perfformiadau cerddorol Côr Curiad a Kim Darkin ac roedd yn fraint cael clywed straeon trawiadol Delyth Jones, Stephenie Sims a Caitlin Yeo.