Home > Uncategorized > Cwrdd â menywod Waspi ger Plac Emmeline Pankhurst

Er mwyn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, cyfarfûm ag ymgyrchwyr pensiwn WASPI ger y plac i gofio am ymweliad Emmeline Pankhurst â Llanelli. Mae menywod a anwyd yn yr 1950au wedi dioddef yn sylweddol o ganlyniad i newidiadau sydyn y Llywodraeth i hawliau pensiwn. Gallai’r llywodraeth wedi penderfynu cyflwyno’r newidiadau hyn dros gyfnod teg ond penderfynwyd peidio â gwneud hyn. Mae’n bryd i’r Llywodraeth gwrando ar leisiau’r ymgyrchwyr er mwyn datrys y mater.