Home > Uncategorized > Coronafeirws – help i’r henoed

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb enfawr i arafu lledaeniad Coronafeirws gymaint ag y gallwn o bosibl, i amddiffyn y rhai sy’n fwy agored i gymhlethdodau ac arbed ein gwasanaeth iechyd yn cael ei lethu.

Gwn y bydd llawer ohonom eisiau helpu’r rhai sy’n cael ein hannog i aros gartref, p’un ai trwy helpu cludo nwyddau iddynt –  gan gymryd yr holl ragofalon sy’n angenrheidiol, neu eu ffonio yn rheolaidd i wirio a ydynt yn iawn ac i’w cadw’n gwmni.

Os ydych yn dymuno gwirfoddoli, gallwch gysylltu ag Age Cymru Sir Gar ar 01554 784080 neu Gymdeithas Gwasanaeth Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin ar 01267 245555.

Os ydych yn gwybod am rywun heb deulu gerllaw ac sydd angen help, yna gallwch eu cyfeirio at Delta Wellness Sir Gaerfyrddin (Careline gynt) ar 0300 333 22 22 neu at Age Cymru Syr Gar ar 01554 784080.