Home > Uncategorized > Coronafeirws – ffynonellau gwybodaeth

Defnyddiwch y ffynonellau gwybodaeth dibynadwy canlynol i gael y cyngor a’r arweiniad diweddaraf:

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu datganiad dyddiol am hanner dydd ar y pandemig Coronafeirws.

Gweler y datganiad dyddiol yma.

Maent hefyd wedi darparu canllawiau defnyddiol ar hunan-ynysu, cadw pellter cymdeithasol a thudalen adnoddau Coronafeirws sy’n llawn gwybodaeth cyfryngau cymdeithasol a fideos defnyddiol.

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tudalen we Coronafeirws sydd â chysylltiadau â’r cyngor diweddaraf, datganiadau gweinidogol a chyhoeddiadau.

Gallwch mynychu’r dudalen we yma.

GIG 111 Cymru

Mae GIG 111 Cymru wedi lansio gwiriwr symptomau ar-lein sydd i’w gael yma.

Cyngor Sir Caerfyrddin

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut mae Coronafeirws yn effeithio ar bobl a gwasanaethau yn lleol ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin yma.

Swyddfa Dramor a Chymanwlad

Gellir dod o hyd i’r cyngor teithio diweddaraf gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yma.

Sefydliad Iechyd y Byd

Gellir dod o hyd i wybodaeth gyhoeddus am y firws gan Sefydliad Iechyd y Byd yma.

Llywodraeth y DU

Gellir gweld diweddariadau ar sut mae’r ymateb yn cael ei gydlynu ledled y DU yma.