Home > Uncategorized > ASau yn ymweld â’r Arctig

Roedd yn fraint cael ymweld â’r Morlu Brenhinol wrth iddyn ymarfer sut i ymdopi â’r oer yng ngogledd Norwy – rhyw 200 milltir tu fewn i gylch yr Arctig. Fe welom a chlywom amrywiaeth o weithgareddau hyfforddi ar dir ac yn y môr a’r awyr. Hefyd, roedd cyfle i ni drafod materion amddiffyn eangach ac i wella ein dealltwriaeth o’r morlu. Roedd hwn yn brofiad gwerth chweil iawn.