Home > Uncategorized > Apêl fawr y daffodil Marie Curie

Braint oedd cwrdd â llysgenhadon Marie Curie ac un o gyn-gystadleuwyr rhaglen Strictly Come Dancing, Anneka Rice a’r Cynorthwyydd Iechyd ar frys Lukmon Adeyemi fel rhan o’u hymdrechion i hyrwyddo lansiad Apêl fawr y daffodil Marie Curie, ymgyrch codi arian blynyddol mwyaf yr elusen a gynhelir pob mis Mawrth. Fel nifer o drigolion Llanelli, rwy’n gwerthfawrogi’r holl waith y mae Marie Curie yn ei wneud wrth iddyn ddarparu gofal a chymorth hynod o bwysig i bobl sy’n byw ag salwch angheuol a’u teuluoedd. Hoffwn estyn diolch hefyd i Côr Curiad a’u cefnogwyr sydd wedi codi £22,000 dros Marie Curie eleni.