Home > Uncategorized > Gweithio dros adfer gwasanaethau bysiau at ysgolion lleol

Mae’r penderfyniad sydyn i dynnu gwasanaeth bysau ysgol lleol wedi achosi problemau mawr i ddisgyblion. Dylai’r problemau hyn wedi cael eu rhagweld a’u datrys rhyw fisoedd yn ôl. Yn anffodus, mae’r sefyllfa yn un cymhleth oherwydd deddfwriaeth newydd á chymalau cymhleth sy’n rhan ohono ond mae angen i ni gyd gydweithio er mwyn adfer y gwasanaethau hyn cyn gynted ag bo modd.

Am flynyddoedd bellach, mae disgyblion ysgol uwchradd sy’n byw mwy nag 3 milltir oddi wrth ysgol wedi mwynhau cludiant am ddim. Er hynny, gellid dadlau ei bod hi’n afresymol i ddisgyblion sy’n byw ond ychydig o fetrau y tu fewn i’r dalgylch o 3 filltir cerdded i’r ysgol pob diwrnod wrth gario’u llyfrau a chit mewn tywydd cyfnewidiol. Yn ddiweddar, mae cost gwasanaethau bysiau lleol wedi cynyddu ac mae eu hargaeledd wedi gwaethygu oherwydd preifateiddio di-baid, y penderfyniad i dynnu cymorthdaliadau cyhoeddus a’r lleihau ar y nifer o wasanaethau nad ydynt yn gwneud elw, sydd yn tueddi i fod mewn ardaeloedd gwledig. Yn sicr, mae’r arian sydd ar gael i gynghorau sir hefyd wedi disgyn yn sylweddol. Bellach, hyd yn oed os oes bws priodol yn ar gael, mae teuluoedd incwm isel yn gweld hi’n anodd talu costau tocyn cynyddol y gwasanaethau hyn yn rheolaidd.

Roeddwn wedi fy siomi wrth ddarganfod nad yw’r cynllun pris tocyn gostyngol i blant sydd o fewn 3 milltir i ysgol yn ddigon hygyrch. Mae’r cynllun ar gael os oes llefydd gwag ar fws ond mae’r cynllun ond yn cychwyn rhyw hanner ffordd trwy dymor ac weithiau mae gyrwyr wedi gwrthod gwerthu’r tocynnau hyn i ddisgyblion hyd yn oed os oes llefydd gwag ar y bws. Rwy’n deall y bydd y Cyngor Sir yn adolygu’r cynllun yn sgil hyn ond mae angen gwneud hyn yn syth bin er mwyn sicrhau bod y newidiadau o fudd i’r nifer mwyaf o ddisgyblion posib.

Nid disgyblion yn unig sy’n dioddef oherwydd y toriadau i wasanaethau bws a phrisiau uchel docynnau. Mae hyn hefyd yn effeithio ar nifer o bobl sy’n ceisio am waith ac sydd am gael mynediad at wasanaethau. Mae angen i Lywodraeth y DU buddsoddi’n sylweddol er mwyn sicrhau rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy’n gydgysylltiedig ac yn fforddiadwy.